top of page
Search

Gwymon ar linell y llanw

Dwi’n gwybod be da chi’n feddwl: ydi hwn yn rhywbeth cyffrous iawn i weld yn yr hydref ym Mhen Llŷn?! Ond daliwch ati i ddarllen – ella y cewch eich siomi ar yr ochr orau.

Carrageen, a elwir hefyd yn Fwsogl Gwyddelig

Mae Gwymon yn chwarae rhan hanfodol yn ein ecosystem forol ond prin bod ei gyfraniad yn cael ei gydnabod yn llawn ac yn amlach na pheidio mae’n cael ei anwybyddu. O amgylch arfordir Llŷn mae’r ‘coedwigoedd’ o Fôr-wiail byseddog (Kelp) sy’n ffynnu yn y dŵr oer sydd yn cynhesu’r drwy’r haf ac yn carpedu gwely’r môr a’r parth rhynglanwol mewn canopi deiliog yn rhan allweddol o’n cynefinoedd arfordirol gan eu bod yn cynnig cysgod i nifer o rywogaethau eraill oroesi a ffynnu. Gall unrhyw un sydd wedi treulio amser yn plymio neu snorclo yng nghanol y cynefinoedd rhyfeddol yma dystio fod prysurdeb y bywyd gwyllt yma cystal â’r hyn y byddai'r mwyafrif yn ei gysylltu â riffiau cwrel lliwgar y trofannau!


Anemoni nadreddog yn siglo mewn cerrynt ysgafn o dan y dŵr yn Ynys Enlli


Yn yr un ffordd ag y mae’r dail yn disgyn oddi ar y coed yn yr Hydref mae’r môr wiail byseddog yn gollwng eu deilgangau yn yr Hydref, er mwyn cael gwared â’r gordyfiant o fywyd morol sydd wedi casglu dros yr haf, a pharatoi ar gyfer tyfiant newydd y gwanwyn canlynol. Mae tunelli o’r gwymon yma yn cael ei olchi ar draethau Llŷn yn yr Hydref, a thomeni yn casglu ar ôl stormydd mawr.


Gwymon ar draeth Porth Neigwl wedi storm

Mae’r tomeni yma o wymon amrywiol a Môr-wiail byseddog yn ffynhonnell gyfoethog o fwyd i amrywiaeth eang o infertebratau sydd yn eu tro yn bwydo gwylanod, corhedyddion, sigl dy gwt, bronfraith, brain ac hefyd y frân goesgoch! Nid bywyd gwyllt yn unig sy’n falch o weld y gwymon yma yn cael ei olchi i’r lan: mae’n cael ei gasglu gan arddwyr lleol fel gwrtaith naturiol i’w gerddi.


Ar lefel fwy esthetig, gall edrych ar liwiau, patrymau a strwythur y gwymon sy'n cael ei olchi i'r lan fod yn arddangosfa yr un mor drawiadol â lliwiau dail yr hydref ar goed collddail! Mae rhywogaethau fel gwymon Carrageen, a elwir hefyd yn Fwsogl Gwyddelig, yn edrych yn arbennig o gywrain a glân: gall y strwythur canghennog tebyg i wyntyll llaw ymddangos mewn brown, coch, pinc, gwyn, melyn ac amrywiaeth o liwiau glas.



Carrageen pinc llachar yng nghanol y môr wiail byseddog
Amrywiaeth o liwiau llachar yn ymddangos wrth i’r mor-wiail byseddog a’r Carragen ddechrau pydru.
Carragen gwyn ac amrywiaeth o rywogaethau gwymon wedi ei golchi i’r lan.

Felly’r tro nesaf y bydddwch yn cerdded ar hyd un o draethau Llŷn yn yr hydref neu’r gaeaf ac yn camu dros bentyrrau o wymon sydd yn pydru, edrychwch ychydig yn fwy gofalus, a gwerthfawrogwch y stori sydd gan yr algâu diymhongar yma i’w hadrodd.


Buaswn yn dadlau ei bod yn werth mentro allan drwy’r gwynt a’r glaw yn yr Hydref er mwyn mwynhau’r golygfeydd gwych sydd i’w ar gael i’w mwynhau yn yr ardal arbennig yma o ogledd Cymru. Peidiwch â gadael i’r rhagolygon am law, cawodydd stormus a gwyntoedd oer a hallt o’r môr leihau eich brwdfrydedd am fynd allan oherwydd mae’r golygfeydd sydd yn gwobrwyo’r rhai sydd yn barod i adael y tŷ yn werth eu gweld.

bottom of page